Hebrews 10:34 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys am fy rrwymay y royðych yn cydolurio a mi, ac a gymerasoch yn llawen yspeil fa ych da, megis rrai a wyðay fod ywch ynoch ychun g olud gwell, sy yn y nefoedd, ac yn parhau.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys â’r rhai mewn rhwymau y cyd-ymdeimlasoch, ac anrheithiad eich meddiannau gyda llawenydd a gymmerasoch, gan wybod fod genych, i’ch hunain, feddiant gwell a pharhaus.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys â’r carcharorion y cyd-ddioddefasoch, a’r ysbeiliad o’ch meddiannau a dderbyniasoch mewn llawenydd, gan wybod bod gennych chwi eich hunain feddiant gwell ac arhosol.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys chwi a gyd‐ddioddefasoch â'm rhwymau i hefyd, ac a gymerasoch eich ysbeilio am y pethau oedd gennych yn llawen; gan wybod fod gennych i chwi eich hunain olud gwell yn y nefoedd, ac un parhaus.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roeddech chi'n dioddef gyda'r rhai oedd wedi eu taflu i'r carchar. A phan oedd eich eiddo yn cael ei gymryd oddi arnoch chi roeddech chi'n derbyn y peth yn llawen. Wedi'r cwbl roeddech chi'n gwybod fod gan Dduw bethau gwell i chi — pethau sydd i bara am byth!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd cyd-ddioddefasoch 'r carcharorion, a derbyniasoch mewn llawenydd ysbeilio'ch meddiannau, gan wybod fod meddiant rhagorach ac arhosol yn eiddo i chwi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys chwi a gyd‐ymdeimlasoch â'r rhai mewn rhwymau, ac a gymerasoch yspeilio eich meddiannau gyda llawenydd, gan wybod fod gennych eich hunain yn feddiant gwell ac arosol.