Hebrews 10:36 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys rraid ydyw y chwi wrth ymynedd, mal y galloch wedy darffo ywch wneuthyr wollys Dyw, dderbyn yr addewid.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys wrth amynedd y mae i chwi raid, fel, wedi i ewyllys Duw ei wneuthur genych, y derbynioch yr addewid:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys amynedd sydd yn rhaid i chwi fel, wedi gwneuthur ewyllys Duw, y caffoch yr addewid.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys rhaid i chwi wrth amynedd; fel, wedi i chwi wneuthur ewyllys Duw, y derbynioch yr addewid.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Rhaid i chi ddal ati, a gwneud beth mae Duw eisiau. Wedyn cewch dderbyn beth mae wedi ei addo i chi!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae angen dyfalbarhad arnoch i gyflawni ewyllys Duw a chymryd meddiant o'r hyn a addawyd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys y mae angen hir‐ymaros arnoch, fel, gan wneuthur ewyllys Duw, y derbynioch yr addewid.