Hebrews 10:8 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Wedi yddo ddoydyt vchod, Aberth ac offrwm, a phoeth‐aberthay, ac offrwmay tros pechawd nis mynaist, ac nis derbyniaist, (rrain a offrymmir wrth y gyfraith)
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gan ddywedyd uchod, “Aberthau ac offrymmau a phoeth-offrymmau a phech-aberthau ni ewyllysiaist,” ac “ni’th foddlonwyd” ynddynt, (y rhai yn ol y Gyfraith a offrymmir,)
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Wrth ddywedyd i ddechrau, “aberthau ac offrymau ac offrymau llosg a rhai dros bechod ni tynnaist ac ni ryngwyd dy fodd ynddynt,” y rhai a offrymir yn ôl y gyfraith,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Wedi iddo ddywedyd uchod, Aberth ac offrwm, ac offrymau poeth, a thros bechod, nis mynnaist, ac nid ymfodlonaist ynddynt; y rhai yn ôl y gyfraith a offrymir;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r Meseia yn dweud, “Nid aberth ac offrwm rwyt ti eisiau” a “Doedd offrymau llosg ac offrymau dros bechod ddim yn dy blesio di.” (Y Gyfraith Iddewig sy'n dweud fod rhaid gwneud hyn i gyd).
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae'n dweud, i ddechrau, "Aberthau ac offrymau, a phoethoffrymau ac aberth dros bechod, ni ddymunaist mohonynt ac nid ymhyfrydaist ynddynt." Dyma'r union bethau a offrymir yn l y Gyfraith.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Wrth ddywedyd uchod, Aberthau ac offrymau a chyfan boeth‐offrymau a phech‐aberthau nis mynnaist, ac ni'th foddlonwyd ynddynt, y rhai yn ol y Gyfraith a offrymir,