Hebrews 11:1 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
FFydd yn wir, yw ffyrfder y pethau a obeithir, ac egluriat ar y pethau nis gwelir.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac y mae ffydd yn sicrwydd y pethau y gobeithir am danynt,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yn awr, ffydd yw sicrhad pethau a obeithir ac argyhoeddiad o bethau ni welir.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ffydd yn wir yw sail y pethau yr ydys yn eu gobeithio, a sicrwydd y pethau nid ydys yn eu gweled.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ffydd ydy'r sicrwydd fod beth dŷn ni'n gobeithio amdano yn mynd i ddigwydd. Mae'n dystiolaeth sicr o realiti beth dŷn ni ddim eto'n ei weld.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn awr, y mae ffydd yn warant o bethau y gobeithir amdanynt, ac yn sicrwydd o bethau na ellir eu gweld.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yn awr y mae ffydd yn sicrwydd y pethau y gobeithir am danynt, ac yn brawf o bethau ni welir;