Hebrews 11:13 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Mewn ffydd y bu farw y rrain oll, heb ðerbyn yr addaweidion, eithr o bell y gweled hwynt, ai credu, ay cymeryd hwynt yn ddiolchys, a chyfaddef y bod yn bererinion ac yn ddieithred ar y ðayar.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Mewn ffydd y bu farw y rhai hyn oll, heb dderbyn o honynt yr addewidion, eithr o bell eu gweled hwynt a’u cofleidio, ac wedi cyfaddef mai dieithriaid ac alltudion oeddynt ar y ddaear:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yn ôl ffydd y bu farw y rhai hyn oll, heb feddiannu’r addewidion, ond eu gweled o bell a’u croesawu, a chyffesu mai dieithriaid ac alltudion oeddynt ar y ddaear.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Mewn ffydd y bu farw'r rhai hyn oll, heb dderbyn yr addewidion, eithr o bell eu gweled hwynt, a chredu, a chyfarch, a chyfaddef mai dieithriaid a phererinion oeddynt ar y ddaear.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Buodd y bobl hyn farw, wedi credu yn Nuw ond heb dderbyn yn llawn beth roedd Duw wedi ei addo iddyn nhw. Ond roedden nhw yn gweld y cwbl o bell, ac yn edrych ymlaen yn frwd. Roedden nhw'n dweud yn agored mai pobl ddieithr yn crwydro'r tir oedden nhw,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Mewn ffydd y bu farw'r rhai hyn oll, heb fod wedi derbyn yr hyn a addawyd, ond wedi ei weld a'i groesawu o bell, a chyfaddef mai dieithriaid ac ymdeithwyr oeddent ar y ddaear.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Mewn ffydd y bu farw y rhai hyn oll, heb dderbyn yr addewidion, eithr o bell eu gweled hwynt a'u cyfarch, a chan gyffesu mai estroniaid ac alltudion oeddynt ar y ddaear;