Hebrews 11:15 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Pe biasentwy fyddylgar am vvlad y doythant y maes o hani, hwynt a gowson amser y ddymchwelyd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac yn wir, ped am honno y buasent yn cofio, o’r hon yr aethant allan, buasai ganddynt amser i ddychwelyd;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A bid sicr, pe buasent yn meddwl am y wlad y daethent allan ohoni, buasai ganddynt amser i ddychwelyd;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yn wir, pe buasent yn meddwl am y wlad honno, o'r hon y daethent allan, hwy a allasent gael amser i ddychwelyd:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dim y wlad roedden nhw wedi ei gadael oedd ganddyn nhw mewn golwg, achos gallen nhw fod wedi mynd yn ôl yno.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac yn wir, pe buasent wedi dal i feddwl am y wlad yr oeddent wedi mynd allan ohoni, buasent wedi cael cyfle i ddychwelyd iddi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yn wir pe am honno y buasent yn meddwl, o'r hon y daethant allan, hwy a gaent gyfle i ddychwelyd.