Hebrews 11:16 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithyr yn awr gvvlad ’sy well y mayntwy yn y chwenychu, sef yw nefawl: achos pam nid quilið can Ddyw y hun y alw y Dyw hwyntwy, o blegid paratoi a wnaeth ef ddinas yddynt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ond yn awr un well y maent yn ei chwennych, hyny yw, un nefol; o herwydd paham nid oes cywilydd o honynt gan Dduw, i’w alw eu Duw hwynt, canys parottodd iddynt ddinas.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ond, yn wir, am wlad well y maent yn ymestyn, hynny yw, un nefol. Am hyn nid oes ar Dduw gywilydd ohonynt, [a] chael ei alw yn Dduw iddynt, canys paratoes iddynt ddinas.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr yn awr gwlad well y maent hwy yn ei chwennych, hynny ydyw, un nefol: o achos paham nid cywilydd gan Dduw ei alw yn Dduw iddynt hwy: oblegid efe a baratôdd ddinas iddynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Na, roedden nhw'n dyheu am rywle gwell — am wlad nefol. Dyna pam fod gan Dduw ddim cywilydd cael ei alw'n Dduw iddyn nhw, am fod ganddo ddinas yn barod ar eu cyfer nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond y gwir yw eu bod yn dyheu am wlad well, sef gwlad nefol. Dyna pam nad oes ar Dduw gywilydd ohonynt, nac o gael ei alw yn Dduw iddynt, oherwydd y mae wedi paratoi dinas iddynt.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr yn awr am un well y maent yn hiraethu, hynny ydyw un nefol; o herwydd paham nid oes ar Dduw gywilydd o honynt, i'w gyfenwi yn Dduw iddynt hwy, canys parotôdd ddinas iddynt.