Hebrews 11:17 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Trwy ffydd yr offrymodd Abraham Isaac, pan fu braw arno, ay vn mab a offrymodd yr hwn a dderbyniase yr addaweidion.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Trwy ffydd yr offrymmodd Abraham Itsaac, yn cael ei brofi; ac ei unig-anedig a offrymmai yr hwn a dderbynodd yr addewidion,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Trwy ffydd y cawn i Abraham ddwyn Isaac yn offrwm pan oedd yn cael ei brofi; ie, ei uniganedig a ddug y gŵr a dderbyniasai’r addewidion
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Trwy ffydd yr offrymodd Abraham Isaac, pan ei profwyd: a'i unig‐anedig fab a offrymodd efe, yr hwn a dderbyniasai'r addewidion:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ffydd wnaeth i Abraham offrymu Isaac yn aberth, pan oedd Duw yn ei brofi. Dyma'r un oedd wedi derbyn addewidion Duw, yn ceisio aberthu ei unig fab!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Trwy ffydd, pan osodwyd prawf arno, yr offrymodd Abraham Isaac. Yr oedd yr hwn oedd wedi croesawu'r addewidion yn barod i offrymu ei unig fab,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Trwy ffydd, Abraham, gan gael ei brofi, a offrymodd i fyny Isaac: ië, yr hwn a roesawodd yr addewidion oedd yn offrymu ei unig‐anedig,