Hebrews 11:21 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Trwy ffydd pan oedd Iaco yn marw, y rroes fendith y bob vn o veibiō Ioseph, ac ai bvvys ar ben eu ffon, yr addolawdd ef Ddyvv.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Trwy ffydd, Iacob, pan yn marw, a fendithiodd bob un o feibion Ioseph, ac a addolodd a’i bwys ar ben ei ffon.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Trwy ffydd y bendithiodd Jacob ar ei wely angau feibion Joseff bob un, ac yr ymgrymodd ar ben ei ffon.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Trwy ffydd, Jacob, wrth farw, a fendithiodd bob un o feibion Joseff; ac a addolodd â'i bwys ar ben ei ffon.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ffydd wnaeth i Jacob fendithio plant Joseff pan oedd ar fin marw. “Addolodd Dduw wrth bwyso ar ei ffon.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Trwy ffydd y bendithiodd Jacob, wrth farw, bob un o feibion Joseff, ac addoli 'i bwys ar ei ffon.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Trwy ffydd, Jacob, wrth farw, a fendithiodd bob un o feibion Joseph, ac a addolodd gan bwyso ar ben ei ffon.