Hebrews 11:22 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Trwy ffydd pan oedd Ioseph yn marw, y coffaodd am ymadawiad plant Israel, ac a roes ’orchymyn am eu escyrn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Trwy ffydd, Ioseph, pan yn trengu, am y mynediad allan gan feibion Israel y coffhaodd, ac am ei esgyrn y gorchymynodd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Trwy ffydd y coffaodd Joseff yn ei ddiwedd am fynediad meibion Israel allan, ac y rhoddodd orchymyn ynghylch ei esgyrn.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Trwy ffydd, Joseff, wrth farw, a goffaodd am ymadawiad plant Israel; ac a roddodd orchymyn am ei esgyrn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A phan roedd Joseff ar fin marw, ei ffydd wnaeth iddo yntau sôn am bobl Israel yn gadael yr Aifft. Dwedodd wrthyn nhw hefyd ble i gladdu ei esgyrn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Trwy ffydd y soniodd Joseff, wrth farw, am exodus meibion Israel, a rhoi gorchymyn ynghylch ei esgyrn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Trwy ffydd, Joseph, a'i ddiwedd yn agos, a goffhâodd fynediad allan feibion Israel, ac a roddodd orchymyn am ei esgyrn.