Hebrews 11:23 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Trwy ffydd pan aned Moses, y cuddiwyd ef drimis can eu rieni, achos y bod yn y weled yn fachcen tlws, ac nid ofnesont orchymyn y brenin.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Trwy ffydd, Mosheh, wedi ei eni, a guddiwyd dri mis gan ei rieni, o achos gweled o honynt mai tlws oedd y plentyn; ac nid ofnasant orchymyn y brenhin.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Trwy ffydd, pan aned Moses, y cuddiwyd ef am dri mis gan ei rieni oherwydd iddynt weled y plentyn yn dlws, ac nid ofnasant orchymyn y brenin.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Trwy ffydd, Moses, pan anwyd, a guddiwyd dri mis gan ei rieni, o achos eu bod yn ei weled yn fachgen tlws: ac nid ofnasant orchymyn y brenin.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Eu ffydd wnaeth i rieni Moses ei guddio am dri mis ar ôl iddo gael ei eni. Roedden nhw'n gweld fod rhywbeth sbesial am y plentyn, a doedd ganddyn nhw ddim ofn beth fyddai'r brenin yn ei wneud.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Trwy ffydd y cuddiwyd Moses ar ei enedigaeth am dri mis gan ei rieni, oherwydd eu bod yn ei weld yn blentyn tlws. Nid oedd arnynt ofn gorchymyn y brenin.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Trwy ffydd, Moses, wedi ei eni, a guddiwyd dri mis gan ei rieni, am eu bod yn ei weled yn blentyn tlws, ac nid ofnasant arch y brenin.