Hebrews 11:27 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Trwy ffydd y gadewis ef yr Aifft, heb ofni ffromder y brenin: cyfryw ydoedd y emynedd ef, a phe biase ef yn gweled y neb sydd anweledig.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Trwy ffydd y gadawodd yr Aipht, heb ofni llid y brenhin, canys fel yn gweled Yr Anweledig yr ymwrolodd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Trwy ffydd y gadawodd yr Aifft, nid am ei fod wedi ofni llid y brenin; canys fel un yn gweled yr anweledig y bu’n ddiysgog.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Trwy ffydd y gadawodd efe yr Aifft, heb ofni llid y brenin: canys efe a ymwrolodd fel un yn gweled yr anweledig.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ei ffydd wnaeth i Moses adael yr Aifft. Doedd ganddo ddim ofn y brenin. Daliodd ati i'r diwedd am ei fod yn cadw ei olwg ar y Duw anweledig.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Trwy ffydd y gadawodd yr Aifft, heb ofni dicter y brenin, canys safodd yn gadarn, fel un yn gweld yr Anweledig.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Trwy ffydd y gadawodd efe yr Aipht, heb ofni llid y brenin; canys efe a safodd yn gadarn fel yn gweled yr Anweledig.