Hebrews 11:3 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Wrth ffydd y ddym yn dyall wneuthyr y byd trwy ’air Dyw, ac nid o ddim ar oedd yn ymddangos y gwnaythbwyd y pethau y ddym yn y gweled.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Trwy ffydd y deallwn y ffurfiwyd y bydoedd gan air Duw, fel nad o bethau yn ymddangos y cafodd yr hyn a welir ei wneuthur.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Trwy ffydd, yr ydym yn deall lunio’r cyfanfyd trwy air Duw, yn gymaint nad o bethau gweladwy y mae’r peth a welir wedi dyfod.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Wrth ffydd yr ydym yn deall wneuthur y bydoedd trwy air Duw, yn gymaint nad o bethau gweledig y gwnaed y pethau a welir.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ffydd sy'n ein galluogi ni i ddeall mai'r ffordd y cafodd y bydysawd ei osod mewn trefn oedd trwy i Dduw roi gorchymyn i'r peth ddigwydd. A chafodd y pethau o'n cwmpas ni ddim eu gwneud allan o bethau oedd yno i'w gweld o'r blaen.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Trwy ffydd yr ydym yn deall i'r bydysawd gael ei lunio gan air Duw yn y fath fodd nes bod yr hyn sy'n weledig wedi tarddu o'r hyn nad yw'n weladwy.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Trwy ffydd y deallwn fod y bydoedd wedi eu ffurfio trwy air Duw, fel nad o'r pethau sydd yn y golwg y mae yr hyn a welir wedi dyfod.