Hebrews 11:31 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Trwy ffydd ni ddihenyðwyd Ra h ab y puttain gidar rrai ni buon vfydd, pan dderbyniodd hi yr espiwyr yn heddychol.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Trwy ffydd, Rahab y buttain ni ddifethwyd ynghyd â’r rhai a fuant anufudd, wedi derbyn o honi yr yspïwyr mewn heddwch. A pha beth etto a ddywedaf?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Trwy ffydd ni chollwyd Rahab y butain gyda’r rhai a fu anufudd, am dderbyn ohoni yr ysbïwyr mewn heddwch.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Trwy ffydd ni ddifethwyd Rahab y butain gyda'r rhai ni chredent, pan dderbyniodd hi'r ysbïwyr yn heddychol.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Am fod ganddi ffydd, rhoddodd Rahab y butain groeso i'r ysbiwyr. Wnaeth hi ddim cael ei lladd fel pawb arall, oedd yn anufudd i Dduw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Trwy ffydd, ni chafodd Rahab, y butain, ei difetha gyda'r rhai oedd wedi gwrthod credu, oherwydd iddi groesawu'r ysbiwyr yn heddychlon.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Trwy ffydd, ni ddyfethwyd Rahab y butain gyda'r rhai anufudd, gan iddi dderbyn yr yspïwyr mewn heddwch.