Hebrews 11:34 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A ddiffoddason angerth y tan, a ddianghason rrac miny cleddyf, o wendid a ymnerthasawnt, ac aython yn ddewrion yn y frwydr, ag a ddymchwelasont ar gil vyddinay yr estronion.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a gauasant safnau llewod, a ddiffoddasant allu tân, a ddiangasant rhag min y cleddyf, a nerthwyd allan o wendid, a wnaethpwyd yn gryfion mewn rhyfel, a wnaethant i fyddinoedd estroniaid droi eu cefnau.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a ddiffoddodd angerdd tân, a ddihangodd rhag min y cleddyf, a nerthwyd o wendid, a ddaeth yn gedyrn mewn rhyfel, a yrrodd ar ffo rengau estroniaid;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A ddiffoddasant angerdd y tân, a ddianghasant rhag min y cleddyf, a nerthwyd o wendid, a wnaethpwyd yn gryfion mewn rhyfel, a yrasant fyddinoedd yr estroniaid i gilio.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
tanau gwyllt eu rhwystro rhag llosgi pobl, a llwyddodd eraill i ddianc rhag cael eu lladd gan y cleddyf. Cafodd y rhai oedd yn wan eu gwneud yn gryf, a throi'n filwyr nerthol yn gwneud i fyddinoedd gwledydd eraill ffoi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a ddiffoddodd angerdd tn, a ddihangodd rhag min y cleddyf, a nerthwyd o wendid, a ddaeth yn gadarn mewn rhyfel a gyrru byddinoedd yr estron ar ffo.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
a ddiffoddasant angerdd tân, a ddiangasant rhag min y cleddyf, a nerthwyd o wendid, a wnaethpwyd yn gryfion mewn rhyfel, ac a droisant fyddinoedd o estroniaid i ffoi.