Hebrews 11:35 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Gwragedd a dd erbyniasont eu meirw gwedi eu codi yn fyw eilwaith: eraill a ðirdynnwyd, heb vynnu ei ymwared, fal y gallentwy gael ailgyfodiat a fai woll,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Derbyniodd gwragedd, trwy adgyfodiad, eu meirw; ac eraill a dorrwyd ar yr olwyn, yn ymwrthod â’r ymwared, fel gwell adgyfodiad y caffent.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
cafodd gwragedd eu meirw drwy atgyfodiad; arteithiwyd eraill ar yr olwyn, wedi iddynt wrthod derbyn y ddihangfa, fel y caffent well atgyfodiad.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gwragedd a dderbyniodd eu meirw trwy atgyfodiad: ac eraill a ddirdynnwyd, heb dderbyn ymwared; fel y gallent hwy gael atgyfodiad gwell.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Cafodd rhai gwragedd eu hanwyliaid yn ôl yn fyw ar ôl iddyn nhw farw. Ond cafodd eraill eu poenydio a gwrthod cyfaddawdu i osgoi marw. Roedden nhw'n edrych ymlaen at gael eu codi yn ôl i fywyd gwell!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Derbyniodd gwragedd eu meirwon drwy atgyfodiad. Cafodd eraill eu harteithio, gan wrthod ymwared er mwyn cael atgyfodiad gwell.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Gwragedd a dderbyniasant eu meirw trwy adgyfodiad, dirboenwyd eraill i farwolaeth, heb dderbyn yr ymwared, fel y caent adgyfodiad gwell.