Hebrews 11:37 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Y llabuddio a gowson, y dryllio a wnaed, y tentio a wnaed, o angayr cledddef y buon feirw, crwydro y buon mewn crwyn defaid a geifr, yn ddiddym, a chael gorthrymder, a bod yn ddrwc wrthynt:
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Llabyddiwyd hwynt; â llif y torrwyd hwynt, temtiwyd hwynt, trwy lofruddiaeth cleddyf y buant feirw; rhodient o amgylch mewn crwyn defaid, mewn crwyn geifr, yn anghenus,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
llabyddiwyd hwy, cystuddiwyd hwy, llifiwyd hwy, lladdwyd hwy â lladdedigaeth y cleddyf, buont o fan i fan mewn crwyn defaid, mewn crwyn geifr, yn anghenus, yn adfydus, dan gamdriniaeth, —
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Hwynt‐hwy a labyddiwyd, a dorrwyd â llif, a demtiwyd, a laddwyd yn feirw â'r cleddyf; a grwydrasant mewn crwyn defaid, a chrwyn geifr; yn ddiddim, yn gystuddiol, yn ddrwg eu cyflwr;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Cafodd rhai eu llabyddio gyda cherrig, ac eraill eu llifio yn eu hanner; a chafodd eraill eu lladd â chleddyf. Buodd rhai yn crwydro fel ffoaduriaid heb ddim ond crwyn defaid a geifr yn ddillad; wedi colli'r cwbl, ac yn cael eu herlid a'u cam-drin.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fe'u llabyddiwyd, fe'u torrwyd llif, fe'u rhoddwyd i farwolaeth min y cledd; crwydrasant yma ac acw mewn crwyn defaid, mewn crwyn geifr, yn anghenus, dan orthrwm a chamdriniaeth,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
hwy a labyddiwyd, a dorrwyd â llif, a demtiwyd, a laddwyd a'r cleddyf; aent oddiamgylch mewn crwyn defaid, mewn crwyn geifr, yn anghennus, yn orthrymedig, yn cael eu cam‐drin