Hebrews 11:4 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Drwy ffydd ir offrymmoð Abel y Ddyw aberth vwy no Chayn, trwy’r hon yr enillodd dyst y fod yn gyfion, Dyw yn testlauthn am y roddion ef, a’ thrwyr ffydd hon wedi marw, y may etto yn ymddiddan.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Trwy ffydd, gwell aberth na Chain a offrymmodd Abel i Dduw; trwy’r hon y tystiolaethwyd iddo ei fod yn gyfiawn, gan dystiolaethu o Dduw ar ei roddion ef; a thrwyddi, wedi marw o hono, etto y llefara.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Trwy ffydd yr aberthodd Abel i Dduw amgen offrwm na Chaen, a thrwy hon y dygwyd tystiolaeth iddo ei fod yn gyfiawn, gan fod Duw yn tystiolaethu ar bwys ei roddion; a thrwy hon, y mae ef, wedi marw, yn llefaru eto.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Trwy ffydd yr offrymodd Abel i Dduw aberth rhagorach na Chain; trwy yr hon y cafodd efe dystiolaeth ei fod yn gyfiawn, gan i Dduw ddwyn tystiolaeth i'w roddion ef: a thrwyddi hi y mae efe, wedi marw, yn llefaru eto.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ei ffydd wnaeth i Abel offrymu aberth i Dduw oedd yn well nag un Cain. Dyna sut y cafodd ei ganmol fel un oedd yn gwneud y peth iawn, gyda Duw ei hun yn dweud pethau da am ei offrwm. Ac er ei fod wedi marw ers talwm, mae ei ffydd yn dal i siarad â ni.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Trwy ffydd yr offrymodd Abel i Dduw aberth rhagorach na Cain; trwyddi hi y tystiwyd ei fod yn gyfiawn, wrth i Dduw ei hun dystio i ragoriaeth ei roddion; a thrwyddi hi hefyd y mae ef, er ei fod wedi marw, yn llefaru o hyd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Trwy ffydd yr offrymodd Abel i Dduw aberth rhagorach na Chain, trwy yr hwn y tystiolaethwyd iddo ei fod yn gyfiawn, gan fod Duw yn tystiolaethu ar sail ei roddion, a thrwyddi hi, y mae, er marw o hono, yn llefaru eto.