Hebrews 11:40 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Dyw yn rragweled peth gwell am danomi, val na theilyngid hwynt heibom ninay.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Duw wedi darparu am danom ryw beth gwell, fel nad yn wahan oddi wrthym y perffeithid hwynt.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
gan fod Duw wedi darpar rhywbeth gwell ar ein cyfer ni, fel hebom ni na pherffeithid hwy.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gan fod Duw yn rhagweled rhyw beth gwell amdanom ni, fel na pherffeithid hwynt hebom ninnau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Duw wedi cynllunio rhywbeth gwell iddyn nhw — rhywbeth dŷn ni'n rhan ohono. Felly dŷn nhw ddim ond yn gallu cael y wobr lawn gyda ni.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
am fod Duw wedi rhagweld rhywbeth gwell ar ein cyfer ni, fel nad ydynt hwy i gael eu perffeithio hebom ni.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
gan fod Duw wedi darparu rhywbeth gwell gyda golwg arnom ni, fel na pherffeithir hwy ar wahân oddiwrthym ninnau.