Hebrews 11:5 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Trwy ffydd y cymerwyt Enoch ymaith, rrag gweled ange: ac ni chad ef: am ðarfod y Ddyw y gymeryd ef ymaith: eithr cyn y gymeryd ef ymaith, ef a gowser gair, y fod yn bodloni Dyw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Trwy ffydd, Enoch a drosglwyddwyd, fel na welai farwolaeth; ac ni chaed ef, o herwydd ei drosglwyddo gan Dduw; canys cyn ei drosglwyddiad, tystiolaethwyd iddo y rhyngodd fodd Duw;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Trwy ffydd y symudwyd Enoch fel na welodd angau, ac nis caed ef am fod Duw wedi ei symud, canys cyn ei symudiad y mae tystiolaeth amdano ddarfod iddo ryngu bodd Duw;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Trwy ffydd y symudwyd Enoch, fel na welai farwolaeth; ac ni chaed ef, am ddarfod i Dduw ei symud ef: canys cyn ei symud, efe a gawsai dystiolaeth, ddarfod iddo ryngu bodd Duw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ffydd Enoch wnaeth beri iddo gael ei gymryd i ffwrdd o'r bywyd hwn heb orfod mynd drwy'r profiad o farw. “Roedd wedi diflannu am fod Duw wedi ei gymryd i ffwrdd.” Cyn iddo gael ei gymryd i ffwrdd cafodd ei ganmol am ei fod wedi plesio Duw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Trwy ffydd y cymerwyd Enoch ymaith fel na welai farwolaeth; ac ni chafwyd mohono, am fod Duw wedi ei gymryd. Oherwydd y mae tystiolaeth ei fod, cyn ei gymryd, wedi rhyngu bodd Duw;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Trwy ffydd y symudwyd Enoch fel na welai farwolaeth; ac ni chaed ef oblegyd i Dduw ei symud; canys cyn ei symud y mae efe wedi derbyn tystiolaeth ei fod wedi boddloni Duw.