Hebrews 11:7 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Noe wedi y Ddyw y rebuddio am y pethau nis gwelsid etto, yn llawn o referens, a ddarparhaoð long y achub eu deulu, trwy’r hon long y barnodd ef ar y byd, ac a wnaythbwyd yn ytifedd ir cyfiawnder sy o ffydd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Trwy ffydd, Noah, wedi ei rybuddio am y pethau na welid etto, gydag ofn duwiol, a ddarparodd arch er achubiaeth ei dŷ; a thrwyddi y condemniodd y byd, ac o’r cyfiawnder y sydd yn ol ffydd y’i gwnaed yn etifedd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Trwy ffydd yr adeiladodd Noa, mewn parchedig ofn, arch er achub ei dŷ, ar ôl cael datguddiad am y pethau a oedd eto’n anweledig, a thrwyddi hi y rhoes gondemniad ar y byd ac y daeth yn etifedd y cyfiawnder sydd yn ôl ffydd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Trwy ffydd, Noe, wedi ei rybuddio gan Dduw am y pethau nis gwelsid eto, gyda pharchedig ofn a ddarparodd arch i achub ei dŷ: trwy'r hon y condemniodd efe y byd, ac a wnaethpwyd yn etifedd y cyfiawnder sydd o ffydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ffydd Noa wnaeth iddo wrando ar Dduw ac adeiladu llong fawr i achub ei deulu. Roedd Duw wedi ei rybuddio am bethau oedd erioed wedi digwydd o'r blaen. Wrth gredu roedd e'n condemnio gweddill y ddynoliaeth, ond roedd Noa ei hun yn cael ei dderbyn yn gyfiawn yng ngolwg Duw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Trwy ffydd, ac o barch i rybudd Duw am yr hyn nad oedd eto i'w weld, yr adeiladodd Noa arch i achub ei deulu; a thrwyddi hi y condemniodd y byd ac y daeth yn etifedd y cyfiawnder a ddaw o ffydd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Trwy ffydd, Noah, wedi cael dadguddiad ynghylch y pethau nas gwelsid eto, gyda pharchedig ofn a ddarparodd arch i achub ei dŷ, trwy yr hon y condemniodd efe y byd, ac a ddaeth yn etifedd y Cyfiawnder, yr hwn sydd yn ol ffydd.