Hebrews 11:8 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Drwy ffydd gwedi galw Abraham, yr vfyddhaodd y Ddyvv, y fyned ir man, a gay ef ryw amser yn tretad, ac ayth y ffordd, heb wybod y ble y roedd yn myned.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Trwy ffydd, pan alwyd arno, Abraham a ufuddhaodd i fyned allan i’r lle yr oedd efe ar fedr ei dderbyn yn etifeddiaeth; ac aeth allan heb wybod i ba le yr oedd yn myned;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Trwy ffydd yr ufuddhaodd Abraham pan alwyd ef i fyned allan i le yr oedd i’w dderbyn yn etifeddiaeth, ac allan yr aeth heb wybod i ba le yr oedd yn myned.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Trwy ffydd, Abraham, pan ei galwyd, a ufuddhaodd, gan fyned i'r man yr oedd efe i'w dderbyn yn etifeddiaeth; ac a aeth allan, heb wybod i ba le yr oedd yn myned.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ffydd Abraham wnaeth iddo wrando ar Dduw. Roedd Duw yn ei alw i adael ei gartref a mynd i wlad y byddai'n ei derbyn yn etifeddiaeth yn nes ymlaen. Ond pan aeth oddi cartref doedd e ddim yn gwybod ble roedd yn mynd!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Trwy ffydd yr ufuddhaodd Abraham i'r alwad i fynd allan i'r lle yr oedd i'w dderbyn yn etifeddiaeth; ac fe aeth allan heb wybod i ble'r oedd yn mynd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Trwy ffydd, Abraham, pan yn cael ei alw, a ufuddhaodd i fyned allan i le yr oedd i'w dderbyn yn etifeddiaeth, ac a aeth allan heb wybod i ba le yr oedd yn myned.