Hebrews 11:9 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Trwy ffydd yr aro s awdd ef yn tir yr addewid, megis yn lle dierth, ac y trigodd mewn lluestai gidag Isaac ac Iaco, cydytifeddion yr vn rryw addewid.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
trwy ffydd y bu yn ymdeithydd yn nhir yr addewid fel tir dieithr, ac mewn pebyll yn trigo, ynghydag Itsaac ac Iacob, cyd-etifeddion o’r un addewid,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Trwy ffydd y tariodd yn nhir yr addewid fel mewn tir estron, a thrigo mewn pebyll, gydag Isaac a Jacob, cyd-etifeddion yr un addewid.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Trwy ffydd yr ymdeithiodd efe yn nhir yr addewid, megis mewn tir dieithr, gan drigo mewn lluestai gydag Isaac a Jacob, cyd‐etifeddion o'r un addewid:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A phan gyrhaeddodd y wlad roedd Duw wedi ei haddo iddo, ei ffydd wnaeth iddo aros yno. Roedd fel ymwelydd mewn gwlad dramor, yn byw mewn pebyll. (Ac Isaac a Jacob yr un fath, gan fod Duw wedi rhoi'r un addewid iddyn nhw hefyd.)
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Trwy ffydd yr ymfudodd i wlad yr addewid fel i wlad estron, a thrigodd mewn pebyll, fel y gwnaeth Isaac a Jacob, cydetifeddion yr un addewid.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Trwy ffydd y bu yn ymdeithydd yng ngwlad yr Addewid megys gwlad estronol, gan drigo mewn pebyll, gydag Isaac a Jacob, cyd‐etifeddion o'r un addewid;