Hebrews 12:1 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
OBlegid hynny, ninay hevyd can fod kimaint kwmwl testion wedi yn amgylchu ni, bwriwn heibio bob trymfaych, ar pechawd sy barawd i hyny yn amgylch: rredwn yn oddefus yr yrfa a osoded y ni
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gan hyny, bydded i ninnau hefyd, a ni a chenym yn ein hamgylchu gwmmwl mor fawr o dystion, gan roi ymaith bob pwys a phechod y sydd mor barod yn ein hamgylchynu, redeg trwy amynedd y rhedfa a osodwyd o’n blaen,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Am hynny, ninnau hefyd gan fod gennym gymaint cwmwl o dystion o’n hamgylch, bwriwn ymaith bob trymlwyth a’r pechod sy’n barod i ymglymu amdanom, a rhedwn yn ddygn y cwrs sydd yn ymestyn o’n blaen,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oblegid hynny ninnau hefyd, gan fod cymaint cwmwl o dystion wedi ei osod o'n hamgylch, gan roi heibio bob pwys, a'r pechod sydd barod i'n hamgylchu, trwy amynedd rhedwn yr yrfa a osodwyd o'n blaen ni;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Oes! Mae tyrfa enfawr o'n cwmpas ni yn dweud mai trystio Duw ydy'r ffordd orau i fyw. Felly gadewch i ni gael gwared â phopeth sy'n ein dal ni'n ôl, yn arbennig y pechod sy'n denu'n sylw ni mor hawdd. Gadewch i ni fod yn benderfynol o ddal ati, a rhedeg y ras sydd o'n blaenau i'w diwedd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Am hynny, gan fod cymaint torf o dystion o'n cwmpas, gadewch i ninnau fwrw ymaith bob rhwystr, a'r pechod sy'n ein maglu mor rhwydd, a rhedeg yr yrfa sydd o'n blaen heb ddiffygio,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Gan hynny bydded i ninnau hefyd, gan fod gennym yn ein hamgylchu gwmwl mor fawr o dystion, gan osod ymaith bob pwys a'r pechod sydd barod i'n hamgylchynu, trwy amynedd redeg yr yrfa a osodir o'n blaen,