Hebrews 12:11 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Nid chwaith hyfrydwch y gedir pob rryw cospedigaeth tros yr amser cydrychol, eithr anhyfrydwch: etto wedi hynny, heddychol ffrwyth cyfiownder a ddyry, ir rrai a font yn arferol a hi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Pob cerydd, yn wir, am yr amser presennol, nid ymddengys yn fatter o lawenydd, eithr o dristwch; ond ar ol hyny, ffrwyth heddychol a rydd efe i’r rhai sydd wedi eu hyfforddi trwyddo, sef ffrwyth cyfiawnder.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys nid oes yr un ddisgyblaeth dros yr amser presennol yn edrych yn beth hyfryd ond yn beth gofidus, ond wedi hynny y mae’n talu’n ôl mewn heddychlon ffrwyth cyfiawnder i’r rhai a fu dan ei goruchwyliaeth hi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eto ni welir un cerydd dros yr amser presennol yn hyfryd, eithr yn anhyfryd: ond gwedi hynny y mae yn rhoi heddychol ffrwyth cyfiawnder i'r rhai sydd wedi eu cynefino ag ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dydy disgyblaeth byth yn bleserus ar y pryd (mae'n boenus!) — ond yn nes ymlaen dŷn ni'n gweld ei fod yn beth da. Ac mae'r rhai sydd wedi dysgu trwyddo yn dod yn bobl sy'n gwneud beth sy'n iawn ac yn profi heddwch dwfn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Nid yw unrhyw ddisgyblaeth, yn wir, ar y pryd yn ymddangos yn bleserus, ond yn hytrach yn boenus; ond yn nes ymlaen, y mae'n dwyn heddychol gynhaeaf cyfiawnder i'r rhai sydd wedi eu hyfforddi ganddi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Pob dysgyblaeth am y presennol yn wir, nid ymdengys yn fater o lawenydd ond o dristwch; eithr ar ol hynny y mae yn cynhyrchu ffrwyth tangnefeddus i'r rhai sydd wedi eu hyfforddi trwyddi, sef ffrwyth cyfiawnder.