Hebrews 12:15 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Disgwilwch, rrag deffygio o neb oddiwrth g ras Dyw: rrac braguro o ryw wreiddin chwerwder y beri aflonyðwch yvvch, a thrwy hwnw llygru llawer.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
gan edrych yn ddyfal rhag i neb fod ar ol oddiwrth ras Duw;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
gan wylio na bo neb yn syrthio’n ôl o ras Duw, na bo un gwreiddyn chwerwedd yn codi ei ben ac yn peri blinder a llygru’r lliaws drwyddo,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gan edrych yn ddyfal na bo neb yn pallu oddi wrth ras Duw; rhag bod un gwreiddyn chwerwedd yn tyfu i fyny, ac yn peri blinder, a thrwy hwnnw llygru llawer;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gwyliwch bod neb ohonoch chi'n colli gafael ar haelioni rhyfeddol Duw. Os dych chi'n gadael i wreiddyn chwerw dyfu yn eich plith chi, gallai hynny greu problemau ag amharu ar lawer o bobl yn yr eglwys.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cymerwch ofal na chaiff neb syrthio'n l oddi wrth ras Duw, rhag i ryw wreiddyn chwerw dyfu i'ch blino, ac i lawer gael eu llygru ganddo.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
gan edrych yn ddyfal rhag i neb syrthio yn fyr o ras Duw; rhag bod un gwreiddyn chwerwedd yn tyfu i fyny ac yn eich trallodi, a thrwyddo i'r lliaws gael eu halogi;