Hebrews 12:17 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys chwi a wyddoch mal wedi hynny hevyd pan fynase ef gael y fendith trwy dretadawl gyfraith, y gwrthodwyd ef: o blegid ni chafos ef gyfle y edifeirwch, ir y fod trwy ddagre yn keisio yr fendith hono.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys gwyddoch, pan wedi hyny yn ewyllysio etifeddu’r fendith, y gwrthodwyd ef (canys lle i edifeirwch ni chafodd efe,) er iddo gyda dagrau ei thaer-geisio hi.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys gwyddoch iddo ef hefyd, pan oedd wedi hynny yn ewyllysio etifeddu’r fendith, gael ei wrthod, — oherwydd ni chafodd gyfle i ailfeddwl, — er iddo gyda dagrau grefu amdani.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys chwi a wyddoch ddarfod wedi hynny hefyd ei wrthod ef, pan oedd efe yn ewyllysio etifeddu'r fendith: oblegid ni chafodd efe le i edifeirwch, er iddo trwy ddagrau ei thaer geisio hi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Collodd y cwbl oedd ganddo hawl i'w dderbyn fel y mab hynaf. Wedyn, pan oedd eisiau i'w dad ei fendithio, cafodd ei wrthod. Roedd hi'n rhy hwyr iddo newid ei feddwl, er iddo grefu a chrefu yn ei ddagrau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd fe wyddoch iddo ef, pan ddymunodd wedi hynny etifeddu'r fendith, gael ei wrthod, oherwydd ni chafodd gyfle i edifarhau, er iddo grefu am hynny dagrau.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys chwi a wyddoch, hyd y nod pan wedi hynny yr oedd yn ewyllysio etifeddu y fendith, ddarfod ei wrthod ef, (canys ni chafodd le i edifeirwch), er iddo â dagrau ei dyfal‐geisio hi.