Hebrews 12:19 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ sain y corn, a’ llef y geiriau, rrhon yr rai ay clowsant, a ymyscusodason, ir mwyn na ddoydid y gair wrthyntw mwy.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a sain udgorn, a llef geiriau yr hon y rhai a’i clywsant a ddeisyfiasant na ’chwanegid wrthynt air,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a bloedd utgorn a llais gorchmynion, nes i’r rhai a’i clywodd ddeisyfu nad ychwanegid gair wrthynt,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A sain utgorn, a llef geiriau; yr hon pwy bynnag a'i clywsant, a ddeisyfasant na chwanegid yr ymadrodd wrthynt:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Does dim sŵn utgorn, na llais i'ch dychryn chi, fel llais Duw pan oedd yn siarad yn Sinai. Roedd y bobl yn crefu ar i Dduw stopio siarad yn uniongyrchol â nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
at floedd utgorn, a llef yn rhoi gorchymyn nes i'r rhai a'i clywodd ymbil am i'r llefaru beidio,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
a llais geiriau, yr hwn lais y rhai a'i clywsant a ddeisyfasant na ychwanegid air wrthynt.