Hebrews 12:2 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Gan edrych ar Iesu pen twysog a gorphenwr yn ffyð ni, rwn yn l’e llywenyð a osodid yddo, a ddioddefodd y groes, heb prisio ar y dirmig, ac a eisteddawdd ar y llaw ddeau y eisteddfa Dyw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
gan edrych at Ben-Tywysog a Pherffeithydd ein ffydd, Iesu, yr Hwn am y llawenydd a osodwyd o’i flaen, a ddioddefodd y groes, gan ddirmygu cywilydd, ac ar ddeheulaw gorsedd-faingc Duw yr eisteddodd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
gan gadw ein golwg ar bennaeth a chwblhawr y ffydd, Iesu, yr hwn er mwyn y llawenydd a oedd yn ei aros, a ymddygnodd dan groes gan iddo ddiystyru gwarth, ac y sydd yn eistedd ar ddeheulaw gorsedd Duw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gan edrych ar Iesu, Pen‐tywysog a Pherffeithydd ein ffydd ni; yr hwn, yn lle'r llawenydd a osodwyd iddo, a ddioddefodd y groes, gan ddiystyru gwaradwydd, ac a eisteddodd ar ddeheulaw gorseddfainc Duw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Rhaid i ni hoelio'n sylw ar Iesu — fe ydy'r pencampwr a'r hyfforddwr sy'n perffeithio ein ffydd ni. Er mwyn profi'r llawenydd oedd o'i flaen, dyma fe'n dal ei dir ar y groes gan wrthod ystyried y cywilydd o wneud hynny, a bellach mae'n eistedd yn y sedd anrhydedd ar yr ochr dde i orsedd Duw yn y nefoedd!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
gan gadw ein golwg ar Iesu, awdur a pherffeithydd ffydd. Er mwyn y llawenydd oedd o'i flaen, fe oddefodd ef y groes heb ddiffygio, gan ddiystyru gwarth, ac y mae wedi eistedd ar ddeheulaw gorseddfainc Duw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
gan graffu ar Ben‐Tywysog a Pherffeithydd ffydd, Iesu, yr hwn er mwyn y llawenydd a osodwyd o'i flaen a ddyoddefodd y Groes, gan ddirmygu cywilydd, ac a eisteddodd ar ddeheulaw gorsedd Duw.