Hebrews 12:20 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
(O blegid ni ellyntwy odde yr hyn y roiddid yn y orchymyn, pe rron y ’nifail a chyfwrð ar mynyð, y labyðio a wneir, neu y frathu trwyðo a gwayw:
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys ni oddefent yr hyn a orchymynid, “Os hyd yn oed bwystfil a gyffyrddai â’r mynydd, llabyddir ef; ”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
oherwydd na allent oddef y gorchymyn, “ac os cyffwrdd hyd yn oed anifail â’r mynydd, llabyddier ef.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
(Oblegid ni allent hwy oddef yr hyn a orchmynasid; Ac os bwystfil a gyffyrddai â'r mynydd, efe a labyddir, neu a wenir â phicell.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd y gorchymyn yn ormod iddyn nhw ei oddef: “Os bydd hyd yn oed anifail yn cyffwrdd y mynydd rhaid ei ladd drwy daflu cerrig ato nes iddo farw.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
am na allent oddef y gorchymyn: "Os bydd anifail, hyd yn oed, yn cyffwrdd 'r mynydd, rhaid ei labyddio."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys ni allent oddef yr hyn a orchymynasid, os hyd yn nod bwystfil a gyffwrdd â'r mynydd, llabyddir ef.