Hebrews 12:21 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac mor aruthr ydoedd y golwg oedd yn ymðāgos, ac y dyvod Moses, Y ddwy yn ofni ac yn crynnu.)
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac mor ofnadwy oedd yr hyn a welwyd, fel y bu i Mosheh ddweud, “Tra-ofnus ydwyf ac mewn cryndod:”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac mor ofnadwy oedd yr olwg fel y dywedodd Moses, Yr wyf wedi dychryn ac yn crynu.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac mor ofnadwy oedd y golwg, ag y dywedodd Moses, Yr ydwyf yn ofni ac yn crynu.)
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd y cwbl mor ofnadwy o ddychrynllyd nes i Moses ei hun ddweud, “Dw i'n crynu drwyddo i mewn ofn.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A chan mor ofnadwy oedd yr olygfa, dywedodd Moses, "Y mae arnaf arswyd a chryndod."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac mor ofnadwy oedd yr olygfa, fel y dywedodd Moses, Yr wyf yn ofni ac yn crynu.