Hebrews 12:23 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ chynilleidfa y blaen anedig oli on, rrain a yscrifenwyd yn y nefoeð, a Dyw browdr pob peth, ac yspryday yr rrai cyfion perffeith,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
at gymmanfa ac eglwys y cyntaf-anedigion sydd wedi eu ’sgrifenu yn y nef, ac at Farnwr pawb, sef Duw; ac at ysprydoedd y cyfiawnion a berffeithiwyd,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
cymanfa a chynulleidfa rhai cyntafanedig sydd â’u henwau yn ysgrifenedig yn y nefoedd, ac at Dduw, farnwr pawb, ac at ysbrydoedd rhai cyfiawn sydd wedi eu perffeithio, ac at Iesu,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
I gymanfa a chynulleidfa'r rhai cyntaf‐anedig, y rhai a ysgrifennwyd yn y nefoedd, ac at Dduw, Barnwr pawb, ac at ysbrydoedd y cyfiawn y rhai a berffeithiwyd,
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yma mae'r bobl hynny sydd â'u henwau wedi eu cofrestru yn y nefoedd — sef y rhai sydd i dderbyn y bendithion, fel y ‛mab hynaf‛. Yma hefyd mae Duw, Barnwr pawb. Yma mae'r bobl gyfiawn hynny fuodd farw, a sydd bellach wedi eu perffeithio.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
yn cadw gu373?yl, a chynulleidfa y rhai cyntafanedig sydd 'u henwau'n ysgrifenedig yn y nefoedd; ac at Dduw, Barnwr pawb, ac at ysbrydoedd y rhai cyfiawn sydd wedi eu perffeithio, ac at Iesu,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac at gynulleidfa y cyntaf‐anedigion sydd wedi eu cofrestru yn y nefoedd, ac at Dduw pawb fel Barnwr, ac at ysprydoedd y cyfiawnion wedi eu perffeithio,