Hebrews 12:25 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Edrychwch nad eskeulusoch y neb sy yn doydyt: o blegid os hwyntw ni ddianghasōt rrain ay gwrthwynebasant ef, y doedd yn doydyt ar y ddayar: mwya oll nas diangvvn ni, os gwrthnebwn y neb sydd yn doydyd or nefoedd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Edrychwch na wrthodoch yr Hwn sy’n llefaru, canys os hwynt-hwy ni ddiengasant, y rhai a wrthodasant ar y ddaear yr Hwn a’u rhybuddiai, mwy o lawer ni ddiangwn ni y sy’n troi ymaith oddiwrth yr Hwn sydd yn ein rhybuddio o’r nefoedd;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Edrychwch na ddeisyfoch rhag clywed yr hwn sy’n llefaru, canys oni ddihangodd y rhai a ddeisyfodd rhag clywed yr hwn oedd yn cyhoeddi ar y ddaear, mwy o lawer, [ni ddihangwn] ni wrth droi ymaith oddi wrth yr hwn sy’n cyhoeddi o’r nefoedd;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Edrychwch na wrthodoch yr hwn sydd yn llefaru. Oblegid oni ddihangodd y rhai a wrthodasant yr hwn oedd yn llefaru ar y ddaear, mwy o lawer ni ddihangwn ni, y rhai ydym yn troi ymaith oddi wrth yr hwn sydd yn llefaru o'r nef:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwrando'n ofalus ar Dduw, yr un sy'n siarad â chi. Os wnaeth pobl Israel ddim dianc pan wrthodon nhw wrando ar Moses, yr un o'r ddaear oedd yn eu rhybuddio nhw, pa obaith sydd i ni os ydyn ni'n troi'n cefnau ar Iesu, yr Un o'r nefoedd sydd wedi'n rhybuddio ni!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwyliwch beidio gwrthod yr hwn sydd yn llefaru, oherwydd os na ddihangodd y rhai a wrthododd yr hwn oedd yn eu rhybuddio ar y ddaear, mwy o lawer ni bydd dianc i ni os byddwn yn troi oddi wrth yr hwn sy'n ein rhybuddio o'r nefoedd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Gwelwch na wrthodoch yr hwn sydd yn llefaru; canys os hwynt‐hwy ni ddiangasant ar y ddaear pan wrthodasant yr hwn a'u rhybuddiai, mwy o lawer ni ddiangwn ni, y rhai ydym yn troi ymaith oddiwrth yr hwn sydd yn ein rhybuddio o'r nefoedd: