Hebrews 12:27 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yr Etto vnwaith hynny, sy yn arwyðocau treiglad y pethau ansafadwy, megis gwaith llavv val y trico y pethau safadwy,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r “Etto un waith” a hyspysa symmudiad ymaith y pethau yn cael eu hysgwyd, megis pethau wedi eu gwneuthur, fel yr arhoso y pethau nad ysgydwir.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond y mae’r unwaith eto hwn yn golygu symud y pethau a siglir megis pethau creëdig, fel yr arhoso’r pethau di-sigl.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Eto unwaith hynny, sydd yn hysbysu symudiad y pethau a ysgydwir, megis pethau wedi eu gwneuthur, fel yr arhoso'r pethau nid ysgydwir.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r geiriau “unwaith eto” yn dangos fod y pethau fydd yn cael eu hysgwyd — sy'n bethau wedi eu creu — i gael eu symud. Dim ond y pethau sydd ddim yn gallu cael eu hysgwyd fydd yn aros.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond y mae'r geiriau, "Unwaith eto", yn dynodi bod y pethau a siglir, fel pethau wedi eu creu, i gael eu symud, er mwyn i'r pethau na siglir aros.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r gair, Eto unwaith, a arddengys symudiad y pethau a ysgydwir fel pethau wedi eu gwneuthur, fel yr arhoso y pethau nad ysgydwir.