Hebrews 12:28 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Am hynny gan yn bod ni yn cymered attom tyrnas, ni ellir y scydwyd, ymaylwn yn y gras, drwyr hwn y gallom wasneuthy Dyw, yn y modd ac y bo bodlon cantho, trwy barch ac ofn‐crefyddus.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
O herwydd paham, gan dderbyn teyrnas nad ysgydwir, bydded genym ddiochgarwch, trwy’r hon y gwasanaethom Dduw wrth Ei fodd,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Am hynny, gan mai teyrnas ddi-sigl yr ydym yn ei derbyn, byddwn ddiolchgar, a thrwy hynny gwasanaethwn Dduw wrth ei fodd, â pharch ac ofn.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oherwydd paham, gan ein bod ni yn derbyn teyrnas ddi‐sigl, bydded gennym ras, trwy'r hwn y gwasanaethom Dduw wrth ei fodd, gyda gwylder a pharchedig ofn:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyna sut deyrnas dŷn ni'n ei derbyn! — un sydd ddim yn gallu cael ei hysgwyd. Felly gadewch i ni fod yn ddiolchgar, ac addoli ein Duw yn y ffordd ddylen ni — gyda pharch a rhyfeddod, am mai
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly, gan ein bod yn derbyn teyrnas ddi-sigl, gadewch inni fod yn ddiolchgar, a thrwy hynny wasanaethu Duw wrth ei fodd, pharch ac ofn duwiol.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
O herwydd paham, gan dderbyn teyrnas nad ysgydwir, bydded gennym ras, trwy yr hwn y gwasanaethom Dduw wrth ei fodd gyda duwiolfrydedd ac ofn;