Hebrews 12:3 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ystyriwch am hynny pwy ydiw r neb a ðioðefawdd gyfriw ddoydet yn eu erbyn can pechadurraid, rrag ych blino wedi deffygio yn ych meddyliay:
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys ystyriwch yr Hwn a ddioddefodd y cyfryw wrth-ddywedyd gan bechaduriaid yn eu herbyn eu hunain, fel na flinoch yn eich eneidiau, gan ymollwng.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys, ystyriwch yr hwn a ymddygnodd dan y fath elyniaeth tuag ato gan bechaduriaid, rhag i chwi ymollwng yn eich eneidiau a blino.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ystyriwch am hynny yr hwn a ddioddefodd gyfryw ddywedyd yn ei erbyn gan bechaduriaid; fel na flinoch, ac nad ymollyngoch yn eich eneidiau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Meddyliwch sut wnaeth e ddiodde'r holl wrthwynebiad gan bechaduriaid — wnewch chi wedyn ddim colli plwc a digalonni.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Meddyliwch amdano ef, a oddefodd y fath elyniaeth ato'i hun gan bechaduriaid, rhag i chwi flino na digalonni.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys cymharwch yr hwn sydd wedi dyoddef y fath wrth‐ddywedyd gan y pechaduriaid yn eu herbyn eu hunain, fel na flinoch yn eich eneidiau, gan ymollwng.