Hebrews 12:5 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A gollwngesoch tros co y cyngor, y sy yn y ddoyded wrthych megis wrth plant, Vy mab, nac eskulusa cospedigaeth yr Arglwydd, ac na laysa pan gerydder di gantho.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac anghofiasoch y cyngor y sy’n ymryson â chwi fel meibion, “Fy mab, na ddirmyga gerydd Iehofah, Ac nac ymollwng pan Ganddo Ef y’th argyhoedder;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac yr ydych wedi anghofio’r anogaeth sydd yn ymliw â chwi megis â meibion, “Fy mab, na fydd ddibris o ddisgyblaeth yr Arglwydd, ac nac ymollwng pan argyhoedder di ganddo;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A chwi a ollyngasoch dros gof y cyngor, yr hwn sydd yn dywedyd wrthych megis wrth blant, Fy mab, na ddirmyga gerydd yr Arglwydd, ac nac ymollwng pan y'th argyhoedder ganddo:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ydych chi wedi anghofio anogaeth Duw i chi fel ei blant?: “Fy mhlentyn, paid diystyru disgyblaeth yr Arglwydd, na thorri dy galon pan fydd yn dy gywiro di,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ac yr ydych wedi anghofio'r anogaeth sy'n eich annerch fel plant: "Fy mhlentyn, paid dirmygu disgyblaeth yr Arglwydd, a phaid digalonni pan gei dy geryddu ganddo;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A chwi a ollyngasoch dros gof y cyngor, yr hwn sydd yn traethu wrthych fel meibion: Fy Mab, na ddibrisia ddysgyblaeth yr Arglwydd, Ac nac ymollwng pan y'th ddyger i brawf ganddo;