Hebrews 12:9 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Heb law hynny taday yn kyrff ni, cael a wneym yn cospi canthynt wy, ay perchy a wnaythom: onid mwy o lawer y may y ni ymostwng i dad yr yspryday, a chael byw?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac etto, tadau ein cnawd fu genym yn geryddwyr, a pharchasom hwynt; onid llawer mwy y’n darostyngir i Dad yr ysprydoedd, a byw?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Heblaw hynny, yr oedd gennym dadau i’n cnawd ni yn ein disgyblu, a pharchem hwynt. Onid oes mwy o lawer o achos i ni ymddarostwng i dad ein hysbrydoedd, a byw?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Heblaw hynny, ni a gawsom dadau ein cnawd i'n ceryddu, ac a'u parchasom hwy: onid mwy o lawer y byddwn ddarostyngedig i Dad yr ysbrydoedd, a byw?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan oedd ein rhieni yn ein disgyblu ni, roedden ni'n eu parchu nhw. Felly oni ddylen ni wrando fwy fyth ar ein Tad ysbrydol, i ni gael byw?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Mwy na hynny, yr oedd gennym rieni daearol i'n disgyblu, ac yr oeddem yn eu parchu hwy. Oni ddylem, yn fwy o lawer, ymddarostwng i'n Tad ysbrydol, a chael byw?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac eto, cawsom dadau ein cnawd i'n dysgyblu, a pharchasom hwynt; onid mwy o lawer y byddwn ddarostyngedig i Dâd yr ysprydoedd, a byw?