Hebrews 13:10 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
May kenymi allor or hon ni does audurdod yddyntwy y fwytta rrai sy yn gwasneuthur yn y Tabernacl.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Y mae genym allor o’r hon nid oes awdurdod i fwytta gan y rhai sy’n gwasanaethu’r tabernacl;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Y mae gennym allor nad oes gan y rhai sy’n gwasanaethu’r tabernacl hawl i fwyta ohoni.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y mae gennym ni allor, o'r hon nid oes awdurdod i'r rhai sydd yn gwasanaethu'r tabernacl i fwyta.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae gynnon ni aberth does gan yr offeiriaid sy'n gweini dan yr hen drefn ddim hawl i fwyta ohoni.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae gennym ni allor nad oes gan wasanaethwyr y tabernacl ddim hawl i fwyta ohoni.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Y mae gennym allor o'r hon nid oes awdurdod gan y rhai a wasanaethant y tabernacl i fwyta.