Hebrews 13:11 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys yr enifeilaid gwaed yr rrain a ddwg yr archeffeiriad ir santeiddle tros bechod, kyrff y y rrain a loskir y tu ollan ir lluestai.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys yr anifeiliaid, y rhai y dygir eu gwaed i mewn am bechod, i’r cyssegr, gan yr arch-offeiriaid, eu cyrph a losgir tu allan i’r gwersyll:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys yr anifeiliaid y dygir eu gwaed dros bechod i’r cysegr drwy law’r archoffeiriad, llosgir cyrff y rhai hynny tu allan i’r gwersyll.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys cyrff yr anifeiliaid hynny, y rhai y dygir eu gwaed gan yr archoffeiriad i'r cysegr dros bechod, a losgir y tu allan i'r gwersyll.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dan yr hen drefn mae'r archoffeiriad yn mynd â gwaed anifeiliaid i mewn i'r Lle Mwyaf Sanctaidd fel offrwm dros bechod, ond mae cyrff yr anifeiliaid yn cael eu llosgi y tu allan i'r gwersyll.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae cyrff yr anifeiliaid hynny, y dygir eu gwaed dros bechod i'r cysegr gan yr archoffeiriad, yn cael eu llosgi y tu allan i'r gwersyll.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys yr anifeiliaid, y rhai y dygir eu gwaed i mewn i'r cysegr am bechod gan yr Archoffeiriad, cyrph y rhai hyn a losgir yn hollol tu allan i'r gwersyll: