Hebrews 13:14 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
O blegid ni does i ni yma ddynas a bery, eithr hon a ddaw y ddym yn i cheisio.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys nid oes genym yma ddinas barhaus, eithr yr hon sydd ar ddyfod yr ym yn ei cheisio.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys nid oes gennym yma ddinas arhosol, ond yr un a ddaw yr ydym yn ei cheisio.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys nid oes i ni yma ddinas barhaus, eithr un i ddyfod yr ŷm ni yn ei disgwyl.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dim y byd hwn ydy'n dinas ni! Dŷn ni'n edrych ymlaen at y ddinas yn y nefoedd, sef yr un sydd i ddod.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd nid oes dinas barhaus gennym yma; ceisio yr ydym, yn hytrach, y ddinas sydd i ddod.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
canys nid oes gennym yma ddinas arhosol, eithr yr ydym yn dyfal‐geisio yr hon sydd yn dyfod.