Hebrews 13:17 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Vfyddhewch ych preladiaid, ac ymddarostyngwch: o blegid gwilio y maent tros ych eneidiau chwi, megis rrai a fydd rraid vddynt roi kyfri, mal i gallon wneuthyr hynny yn llawen, ac nid yn drist: can ys dibroffid yw hynny i chwi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ufuddhewch i’ch blaenoriaid, ac ymddarostyngwch iddynt, canys hwy sy’n gwylio dros eich eneidiau, fel ar fedr rhoddi cyfrif, fel gyda llawenydd y gwnelont hyn ac nid gan alaru, canys difudd i chwi yw hyn.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Byddwch ufudd i’ch arweinwyr ac ymostyngwch iddynt, canys y maent hwy yn effro i wylio dros eich eneidiau chwi fel rhai sydd i roddi cyfrif, fel y caffont wneuthur hyn. mewn llawenydd ac nid dan duchan; canys di-fudd i chwi yw hynny.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ufuddhewch i'ch blaenoriaid, ac ymddarostyngwch: oblegid y maent hwy yn gwylio dros eich eneidiau chwi, megis rhai a fydd rhaid iddynt roddi cyfrif; fel y gallont wneuthur hynny yn llawen, ac nid yn drist: canys di‐fudd i chwi yw hynny.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Byddwch yn ufudd i'ch arweinwyr ysbrydol, a gwneud beth maen nhw'n ei ddweud. Mae'n rhaid iddyn nhw roi cyfri i Dduw am y ffordd maen nhw'n gofalu amdanoch chi. Rhowch le iddyn nhw fwynhau eu gwaith, yn lle ei fod yn faich. Fyddai hynny'n sicr o ddim lles i chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ufuddhewch i'ch arweinwyr, ac ildiwch iddynt, oherwydd y maent hwy'n gwylio'n ddiorffwys dros eich eneidiau, fel rhai sydd i roi cyfrif. Gadewch iddynt allu gwneud hynny'n llawen, ac nid yn ofidus, oherwydd di-fudd i chwi fyddai hynny.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ufuddhêwch i'ch arweinwyr, ac ymostyngwch iddynt; oblegyd y maent hwy yn effro i wylied ar ran eich eneidiau, megys rhai a roddant gyfrif; fel gyd a llawenydd y gwnelont hyn ac nid gan alaru. Canys difudd i chwi yw hynny.