Hebrews 13:2 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Na ollyngwch tros gof roddi lletty‐ i ddiethred: can ys trwy hynny ir erbyniodd rrai yn ddiarwybod Angylion yw tai.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys trwyddi, rhai yn ddiarwybod a lettyasant angylion.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
eich lletygarwch nac anghofiwch; canys trwy hyn y croesawodd rhywrai angylion heb wybod.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Nac anghofiwch letygarwch: canys wrth hynny y lletyodd rhai angylion yn ddiarwybod.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Peidiwch stopio'r arfer o roi croeso i bobl ddieithr yn eich cartrefi — mae rhai pobl wedi croesawu angylion i'w cartrefi heb yn wybod!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Peidiwch ag anghofio lletygarwch, oherwydd trwyddo y mae rhai, heb wybod hynny, wedi rhoi llety i angylion.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Nac anghofiwch letygarwch i ddyeithriaid, canys trwyddo y lletyodd rhai angelion yn ddiarwybod.