Hebrews 13:21 — Compare Translations

6 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ach gwnel yn berffaith ym hob gwaithred ða, y wneuthyr y wollys ef, drwy weithio ynochi yr hyn a fo cymradwy yn y olug ef trwy Iesu grist, ir hwn y bo gogoniant yn oes oesoedd, Amen.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
sef ein Harglwydd Iesu, a’ch perffeithio ym mhob peth da, er gwneuthur Ei ewyllys, gan wneuthur o Hono ynom yr hyn a ryngo fodd yn Ei olwg, trwy Iesu Grist; i’r Hwn y bo’r gogoniant yn oes oesoedd. Amen.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a’ch cyflanwo â phopeth da er gwneuthur ei ewyllys ef, gan gynhyrchu ynom yr hyn sydd gymeradwy ganddo ef trwy Iesu Grist; i’r hwn boed y gogoniant yn oes oesoedd. Amen.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'ch perffeithio ym mhob gweithred dda, i wneuthur ei ewyllys ef; gan weithio ynoch yr hyn sydd gymeradwy yn ei olwg ef, trwy Iesu Grist: i'r hwn y byddo'r gogoniant yn oes oesoedd. Amen.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
eich cymhwyso phob daioni, er mwyn ichwi wneud ei ewyllys ef; a bydded iddo lunio ynom yr hyn sydd gymeradwy ganddo, trwy Iesu Grist, i'r hwn y byddo'r gogoniant byth bythoedd! Amen.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
a'ch perffeithio ym mhob da er gwneuthur ei ewyllys, gan weithredu ynom yr hyn sydd yn rhyngu bodd yn ei olwg ef, trwy Iesu Grist, i'r hwn y byddo y gogoniant yn oes oesoedd. Amen.