Hebrews 13:23 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Gwybyddwch fod ein brawd Tymotheus y ollwng yn rrydd, gidar hwn (odaw e ar fyrder) y do y ymweled a chwi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gwybyddwch fod ein brawd Timothëus wedi ei ollwng yn rhydd; ynghyda’r hwn, os ar fyrder y daw, y gwelaf chwi.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gwybyddwch fod ein brawd Timotheus wedi ei ryddhau; os daw yn weddol fuan, gwelaf chwi gydag ef.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gwybyddwch ollwng ein brawd Timotheus yn rhydd; gyda'r hwn, os daw efe ar fyrder, yr ymwelaf â chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i am i chi wybod fod ein brawd Timotheus wedi cael ei ryddhau o garchar. Os daw yma'n fuan bydda i'n dod ag e gyda mi i'ch gweld chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y newydd yw fod ein brawd Timotheus wedi ei ryddhau, ac os daw mewn pryd, caf eich gweld gydag ef.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Gwybyddwch fod ein brawd Timotheus wedi ei ollwng yn rhydd, gyda'r hwn, os daw efe yn fuan, y gwelaf chwi.