Hebrews 13:3 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Meðyliwch am y rrai sy mewn rrwymay, val pe baech yn rrwym gidag wynt: ar rai y ddydis yn y drygu, val pe ych drygid ych hunain yn y corph.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Cofiwch y rhai mewn rhwymau, megis wedi eich rhwymo gyda hwynt; ac y rhai a ddrygir, megis yn bod eich hunain hefyd yn y corph.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Deliwch i gofio am y carcharorion fel pe baech yng ngharchar gyda hwy, y rhai a gamdrinir gan eich bod chwithau hefyd mewn corff o gnawd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Cofiwch y rhai sydd yn rhwym, fel petech yn rhwym gyda hwynt; y rhai cystuddiol, megis yn bod eich hunain hefyd yn y corff.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Daliwch ati i gofio'r rheiny sy'n y carchar, gan feddwl sut brofiad fyddai hi i fod yn y carchar eich hunain! Cofiwch hefyd am y rhai sy'n cael eu cam-drin, fel tasech chi'ch hunain yn dioddef yr un fath.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cofiwch y carcharorion, fel pe byddech yn y carchar gyda hwy; a'r rhai a gamdrinnir, fel pobl sydd chyrff gennych eich hunain.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Cofiwch y rhai mewn rhwymau, fel rhai wedi eu rhwymo gyd a hwynt; y rhai a ddrygir, megys eich bod eich hunain hefyd yn y corph.