Hebrews 13:5 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Bid digybydd ych ymwreðiad, ac ymfodlonwch ac y sydd tan ych llaw, cans ef a ddyvod, ni phallaf yti, ac nis gadawa di chwaith:
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Diariangar fydded eich tuedd; yn cael eich digoni â’r hyn sydd genych; canys Efe a ddywedodd, “Tydi, ni’th roddaf i fynu; ac â thydi nid ymadawaf ddim,”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Bydded eich bryd yn ddiariangar, gan fod yn fodlon ar yr hyn sydd gennych. Canys dywedodd ef, “Ni’th ollyngaf ddim ac ni chefnaf arnat,”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Bydded eich ymarweddiad yn ddiariangar; gan fod yn fodlon i'r hyn sydd gennych: canys efe a ddywedodd, Ni'th roddaf di i fyny, ac ni'th lwyr adawaf chwaith:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Peidiwch gadael i gariad at arian eich meddiannu chi! — byddwch yn fodlon gyda'r hyn sydd gynnoch chi. Wedi'r cwbl mae Duw ei hun wedi dweud, “Wna i byth eich siomi chi, na throi fy nghefn arnoch chi.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Byddwch yn ddiariangar yn eich dull o fyw; byddwch yn fodlon ar yr hyn sydd gennych. Oherwydd y mae ef wedi dweud, "Ni'th adawaf fyth, ac ni chefnaf arnat ddim."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Bydded eich tueddfryd yn ddiariangar, gan fod yn foddlawn ar y pethau sydd gennych, canys efe ei hun a ddywedodd, Ni'th ollyngaf di o'm gafael o gwbl, ac ni'th adawaf ddim;