Hebrews 13:6 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Hyd val y gallō ðoydyt yn hy, Yr Arglwyð ysy yn gymhorth ym, ac nid ofna beth a wnel dyn ymy.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
fel yn hyderus y dywedom ni, “Iehofah sydd i mi yn gynnorthwywr; Pa beth a wna dyn i mi?”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac am hynny y dywedwn yn galonnog, “Yr Arglwydd yw fy nghymorth, nid ofnaf; Beth a all dyn ei wneuthur imi?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel y gallom ddywedyd yn hy, Yr Arglwydd sydd gymorth i mi, ac nid ofnaf beth a wnêl dyn i mi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly gallwn ni ddweud yn hyderus, “Yr Arglwydd ydy'r un sy'n fy helpu i; fydd gen i ddim ofn. Beth all pobl ei wneud i mi?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Am hynny dywedwn ninnau'n hyderus: "Yr Arglwydd yw fy nghynorthwywr, ac nid ofnaf; beth a wna pobl i mi?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
fel y gallom ddywedyd yn wrol, Yr Arglwydd sydd gynorthwywr i mi, nid ofnaf. Pa beth a wna dyn i mi?