Hebrews 13:7 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Meddyliwch am ych preladiaid, rrain a draythason i chwi air Dyw: calynwch y ffydd hwynt, trwy ystyr pa vn yw diweð y ymwreðiad hwynt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Cofiwch eich blaenoriaid, y rhai a lefarasant wrthych Air Duw; a chan fyfyrio ar ddiwedd eu hymarweddiad, efelychwch eu ffydd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Cedwch mewn cof eich arweinwyr a lefarodd wrthych air Duw; gan syllu ar ddiwedd eu hymarweddiad hwynt, efelychwch eu ffydd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Meddyliwch am eich blaenoriaid, y rhai a draethasant i chwi air Duw: ffydd y rhai dilynwch, gan ystyried diwedd eu hymarweddiad hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Cofiwch eich arweinwyr, sef y rhai wnaeth rannu neges Duw gyda chi. Meddyliwch sut mae eu bywydau nhw wedi gwneud cymaint o ddaioni. Credwch yn yr Arglwydd yr un fath â nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cadwch mewn cof eich arweinwyr, y rhai a lefarodd air Duw wrthych; myfyriwch ar ganlyniad eu buchedd, ac efelychwch eu ffydd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Cofiwch eich arweinwyr, yn gyfryw ag a lefarasant i chwi air Duw; a chan ddwys‐ystyried terfyniad eu buchedd, efelychwch eu ffydd.