Hebrews 13:9 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Nedwch ych dwyn o amgylch ac amryw, ac a dieithyr ddysceidiaythay: can ys da ydiw cadarnhau yr galon a gras, ac nid a bwydydd, rain ni thyciasont ir rrai a fu yn ymarfer ac wynt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac yn dragywydd. Gan ddysgadau amrywiol a dieithr na’ch cam-ddyger ymaith, canys da yw â gras y sefydler y galon, nid â bwydydd, y rhai ni lesawyd y rhai a rodient ynddynt.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Na chamarweinier chwi gan athrawiaethau amryliw a dieithr. Canys da yw bod y galon wedi ei chadarnhau â gras, nid â bwydydd na fuont ddim llesâd i’r rhai a oedd yn ymarfer â hwynt.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Na'ch arweinier oddi amgylch ag athrawiaethau amryw a dieithr: canys da yw bod y galon wedi ei chryfhau â gras, nid â bwydydd, yn y rhai ni chafodd y sawl a rodiasant ynddynt fudd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Peidiwch gadael i bob math o syniadau rhyfedd eich camarwain chi. Haelioni rhyfeddol Duw sy'n ein cynnal ni, dim y rheolau am beth sy'n iawn i'w fwyta. Dydy canolbwyntio ar bethau felly'n gwneud lles i neb!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Peidiwch chymryd eich camarwain gan athrawiaethau amrywiol a dieithr; oherwydd da yw i'r galon gael ei chadarnhau gan ras, ac nid gan fwydydd na fuont o unrhyw les i'r rhai oedd yn ymwneud hwy.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Na chluder chwi ymaith gan athrawiaethau amrywiol a dyeithr; canys gwych yw bod y galon wedi ei sefydlu â gras, nid â bwydydd, yn y rhai ni lesâwyd y rhai a rodient ynddynt.